SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
A allwch chi gredu ein bod yn mynd i mewn i hanner tymor? Ni allwn chwaith! Felly, peidiwch ag anghofio nad oes ysgol wythnos nesaf. Fodd bynnag, fel y cyhoeddwyd eisoes, mae rhai gweithgareddau hwyliog wedi'u trefnu yn Ysgol Panteg gyda'r Urdd a'r Fenter Iaith. Rwyf wedi rhestru'r rhai gyda lle ar ôl arnynt isod.
Edrychwn ymlaen at weld pawb ar ddydd Llun, 19eg o Chwefror. NID OES diwrnod hyfforddi ar y diwrnod hwnnw.
PAWB
Dydd Miwsig Cymru
Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg – o roc, pop, gwerin, electronica, hip hop a phopeth yn y canol. Mae’r diwrnod yn annog pobl o bob oed i ddarganfod y sin gerddoriaeth Gymraeg fywiog sydd gennym yng Nghymru.
Heddiw yw’r nawfed Dydd Miwsig Cymru, felly beth am ymuno â'r dathliadau gartref? Mae gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn arf gwych ar gyfer dysgu y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth, a gall fod yn ffordd i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg ddod yn nes at fyd Cymraeg eu plentyn mewn ffordd hwyliog a hygyrch. Mae Miwsig i bawb.
Mae ‘Heno’ (sioe deledu Gymraeg fel yr ‘One Show’) wedi llunio rhestr chwarae o ganeuon Cymraeg:
Ond, os chwiliwch am ‘Dydd Miwsig Cymru’ mae llawer o ganeuon a rhestrau chwarae gwych i chi gymryd rhan ynddynt!
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw wedi rhoi rhaglen radio at ei gilydd i ddathlu'r diwrnod! Efallai y byddwch chi'n clywed rhai lleisiau cyfarwydd!
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_08fb9c7bdf544f36a2c60215b76b1a96~mv2.jpg/v1/fill/w_453,h_453,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_08fb9c7bdf544f36a2c60215b76b1a96~mv2.jpg)
Derbyn a Meithrin
Archarwyr Bywyd Go Iawn
Heddiw, yn ein dosbarthiadau Cam Cynnydd 1, rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael llawer o ymwelwyr! Fel y bydd teuluoedd yn gwybod, mae'r plant wedi bod yn dysgu am archarwyr dros yr wythnosau diwethaf. Maen nhw wedi bod yn dysgu am archarwyr ffuglennol ac arwyr bywyd go iawn. Rydym mor ddiolchgar i’r bobl a roddodd o’u hamser heddiw i ddod i mewn a dweud popeth wrth y plant am eu swyddi: rydym wedi cael nyrsys, meddygon, y fyddin a'r diffoddwyr tân!
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_255ded5ddfc64c12a466fb3fd10643b4~mv2.jpg/v1/fill/w_341,h_454,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_255ded5ddfc64c12a466fb3fd10643b4~mv2.jpg)
BLWYDDYN 4
Taekwondo
Cafodd ein plant Blwyddyn 4 amser cyffrous ddoe pan gawson nhw sesiwn blasu Taekwondo. Roedd y plant wir yn gwrando ac yn deall disgyblaeth y gamp!
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_788a7935b6bc4ce79ef011cca4908ac4~mv2.png/v1/fill/w_687,h_327,al_c,q_85,enc_auto/44cb66_788a7935b6bc4ce79ef011cca4908ac4~mv2.png)
Cam Cynnydd 3
Llwyddiant Pêl-droed!
Wythnos yma aeth ein tîm pêl-droed merched i gystadlu yn nhwrnamaint yr Urdd. Rydyn ni mor falch ohonyn nhw! Roedd eu hymdrech a'u sgiliau yn golygu eu bod yn cyrraedd y rownd gynderfynol! Da iawn merched!
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_61e21c8927fb4adfbc85ab44b29adbf1~mv2.jpg/v1/fill/w_453,h_339,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_61e21c8927fb4adfbc85ab44b29adbf1~mv2.jpg)
PAWB
Miss Evans a Mr Caccia
Fel canolfan hyfforddi athrawon yn ein hardal, mae gennym lawer o fyfyrwyr sy’n dod i arsylwi arfer da ac yn cael eu mentora i fod yn athrawon. Heddiw, rydyn ni’n drist gweld dau o’n myfyrwyr TAR yn ein gadael ni – rydyn ni’n gobeithio eu gweld nhw nôl eto gyda ni yn fuan! Bydd Miss Evans a Mr Caccia yn mynd ymlaen i’w hymarfer dysgu olaf yn Ysgol Bro Teyrnon.
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_9f40dfcd514843b58b18f1a4273f6c65~mv2.jpg/v1/fill/w_453,h_339,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_9f40dfcd514843b58b18f1a4273f6c65~mv2.jpg)
BLYNYDDOEDD 4, 5 A 6
Coffi Prynhawn
Mae sgiliau entrepreneuriaeth yn bwysig iawn i blant eu dysgu oherwydd eu bod yn cwmpasu cymaint o bynciau a sgiliau bywyd. Dros yr wythnos ddiwethaf, mae’r plant wedi bod yn gweithio’n galed iawn i ddefnyddio eu sgiliau cyllidebu, eu sgiliau cydweithio, eu sgiliau celf, eu sgiliau coginio, eu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu a llawer mwy. Gall y rhestr fynd ymlaen ac ymlaen!
Daeth hyn i uchafbwynt heddiw yn eu prynhawn coffi. Rydym mor ddiolchgar i bawb a ddaeth i gefnogi ein menter Blwyddyn 4, 5 a 6 yn eu menter.
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_cf1672bd99b2413bacf177713d10aa26~mv2.jpg/v1/fill/w_454,h_235,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_cf1672bd99b2413bacf177713d10aa26~mv2.jpg)
BLWYDDYN 6
Gwersyll Mawr Blynyddol - Nodyn Atgoffa
Fel rydych chi’n gwybod, rydym wedi trefnu ein sleepover mawr blynyddol ar gyfer Blwyddyn 6 a fydd yn digwydd dros dri diwrnod (Dydd Mercher, 10fed o Ebrill i Ddydd Gwener, 12fed o Ebrill). Yn ystod y cyfnod hwn, bydd llawer o weithgareddau gan gynnwys ymweld â’r Celtic Manor i gymryd rhan mewn gweithgareddau coedwig (fel rhaffau uchel, saethyddiaeth a rhwydi coedwig), rafftio dŵr gwyn, bowlio, ymweld â’r theatr, trampolinio a llawer mwy.
Cost yr holl ddigwyddiadau a bwyd hyn fydd £130. (Sydd yn llai na hanner pris Llangrannog). Bydd angen blaendal na ellir ei ad-dalu o £30 erbyn dydd Iau, 29 Chwefror am 9am. Ar ôl yr amser hwnnw ni fyddwn yn gallu ychwanegu plant ar y daith hon oherwydd bod rhaid rhoi rhifau i lawer o’r gweithgareddau a thalu ymlaen llaw. Fe fydd gostyngiad o 10% ar gyfer disgyblion sy’n derbyn Grant Datblygu Disgybl.
Bydd y gweddill angen ei dalu erbyn dydd Mercher, 3ydd o Ebrill - wythnos cyn i’r digwyddiad.
Mewngofnodwch i Civica Pay er mwyn cadw lle i’ch plentyn. Os ydych yn cael anhawster talu am hyn, oherwydd problemau technegol neu resymau eraill, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Peidiwch ag aros nes daw'r dyddiad o gwmpas!
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_5a48b61878e3450bb098486b97fa0f54~mv2.jpg/v1/fill/w_567,h_401,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_5a48b61878e3450bb098486b97fa0f54~mv2.jpg)
OEDRAN 6-11
Gweithgareddau Chwaraeon Hanner Tymor yr Urdd - Final Reminder
Ar Ddydd Gwener, 16eg o Chwefror (yn ystod hanner tymor) rhwng 10yb a 12yp, mae’r Urdd a Bron Afon yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu bore o weithgareddau chwaraeon yn yr ysgol. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i blant 6-11 oed.
Archebwch nawr trwy ddilyn y ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e/multi-sports-ages-6-11-tickets-813981880717?aff=ebdsoporgprofile
DERBYN I FLWYDDYN 2
Clwb Gymnasteg Wythnosol - Atgof
Bydd yr Urdd yn dechrau eu clwb gymnasteg yn ôl i fyny ar ddydd Mercher rhwng 4:45 a 5:30. Bydd y clwb hwn yn cael ei redeg ar gyfer plant Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2. Bydd y clwb yn rhedeg am 4 wythnos i ddechrau (yn cychwyn ar yr 21ain o Chwefror) ac os oes digon o ddiddordeb bydd yr Urdd yn edrych ar ymestyn. Cost y cwrs cychwynnol hwn yw £14 sy'n daladwy'n uniongyrchol i'r Urdd wrth archebu.
Archebwch nawr trwy ddilyn y ddolen hon:
DERBYN I FLWYDDYN 6
Sesiwn Hwyl Hanner Tymor gyda Menter Iaith - Nodyn Atgoffa Olaf
Ar Ddydd Iau, 15/02/2023 rhwng 10yb a 12yp, ymunwch â Menter Iaith Ysgol Panteg dros yr Hanner Tymor am fore llawn hwyl yn neuadd yr ysgol gyda’r nod o hybu’r defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth. Bydd llawer i'w wneud gan gynnwys Celf a Chrefft a llawer o gemau. Mae hwn yn addas ar gyfer plant dros 5 oed. Mae niferoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich lle cyn gynted â phosibl. Nid oes tâl cofrestru ar-lein ond bydd y bore yn costio £3, a bydd Menter Iaith yn cysylltu drwy e-bost gydag anfoneb a manylion sut i dalu. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: post@menterbgtm.cymru.
Dilynwch y ddolen hon i archebu!
Can you believe that we are going into half term? We can’t either! So, don’t forget that there is no school next week. However, as previously announced there are some fun activities booked in at Ysgol Panteg with the Urdd and Menter Iaith. I’ve listed the ones with space left on them below.
We look forward to seeing everyone on Monday, 19th of February. There is NO training day on that day.
EVERYONE
Dydd Miwsig Cymru
Dydd Miwsig Cymru (Welsh Language Music Day) is an annual event celebrating all forms of Welsh language music – from rock, pop, folk, to electronica, hip hop and everything in between. The day encourages people of all ages to discover the vibrant Welsh language music scene we have in Wales.
Today is the ninth Dydd Miwsig Cymru, so why not join the celebrations at home? Listening to Welsh language music is a great tool for learning both in and out of the classroom, and can be a way for parents who don’t speak Welsh to get closer to their child’s Welsh language world in a fun and accessible way. Miwsig is for everyone.
‘Heno’ (a Welsh television show like the ‘One Show’) have put together a playlist of Welsh songs:
But, if you search ‘Dydd Miwsig Cymru’ there are lots of great songs and playlists to get involved with!
Ysgol Gymraeg Gwynllyw have put together a radio programme celebrating the day! You might hear some familiar voices!
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_08fb9c7bdf544f36a2c60215b76b1a96~mv2.jpg/v1/fill/w_453,h_453,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_08fb9c7bdf544f36a2c60215b76b1a96~mv2.jpg)
Reception and Nursery
Real Superheroes
Today, in our Progress Step 1 classes, we have been really lucky to have a lot of visitors! As families will know, the children have been learning about superheroes over the last few weeks. They’ve been learning about fictional superheroes and real life heroes. We are so grateful for the people who gave up their time today to come in and tell the children all about their jobs: we have had nurses, doctors, army and the firefighters!
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_255ded5ddfc64c12a466fb3fd10643b4~mv2.jpg/v1/fill/w_341,h_454,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_255ded5ddfc64c12a466fb3fd10643b4~mv2.jpg)
YEAR 4
Taekwondo
Our Year 4 children had an exciting time yesterday when they had a Taekwondo taster session. The children really listened and understood the discipline of the sport!
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_788a7935b6bc4ce79ef011cca4908ac4~mv2.png/v1/fill/w_687,h_327,al_c,q_85,enc_auto/44cb66_788a7935b6bc4ce79ef011cca4908ac4~mv2.png)
Progress Step 3
Football Success!
This week our girls football team went to compete in the Urdd Tournament. We are so proud of them! Their effort and skill meant they got through to the semi-finals! Da iawn merched!
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_61e21c8927fb4adfbc85ab44b29adbf1~mv2.jpg/v1/fill/w_453,h_339,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_61e21c8927fb4adfbc85ab44b29adbf1~mv2.jpg)
EVERYONE
Miss Evans and Mr Caccia
As a centre for teacher training in our area, we have many students who come to observe good practice and are mentored to become teachers. Today, we are sad to see two of our PGCE students leave us - we hope to see them back again with us soon! Miss Evans and Mr Caccia will be going on to their final teaching practice at Ysgol Bro Teyrnon.
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_9f40dfcd514843b58b18f1a4273f6c65~mv2.jpg/v1/fill/w_453,h_339,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_9f40dfcd514843b58b18f1a4273f6c65~mv2.jpg)
YEARS 4, 5 AND 6
Afternoon Coffee
Entrepreneurship skills are really important for children to learn because they encompass so many subjects and life skills. Over this last week, the children have been working really hard to use their budgeting skills, their collaboration skills, their art skills, their cooking skills, their social and communication skills and so many more. The list could go on and on!
This culminated today in their coffee afternoon. We are so thankful to all who came to support our Year 4, 5 and 6 in their venture.
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_cf1672bd99b2413bacf177713d10aa26~mv2.jpg/v1/fill/w_454,h_235,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_cf1672bd99b2413bacf177713d10aa26~mv2.jpg)
YEAR 6
The Big Sleepover - Reminder
This is a reminder that we have booked our annual big sleepover for Year 6 that will take place over three days (Wednesday, 10th of April to Friday, 12th of April). During this time, there will be lots of activities including visiting the Celtic Manor to take part in forest activities (such as high ropes, archery and forest nets), white water rafting, bowling, visiting the theatre, trampolining and much more.
The cost of all these events and food will be £130. (Which is less than half the price of Llangrannog). We will require a non-refundable deposit of £30 by Thursday, 29th of February at 9am. After that time we will not be able to add children on to this trip due to the fact that we have to give numbers to a lot of the activities and pay in advance. There will be a 10% reduction for pupils in receipt of the Pupil Development Grant.
The remaining balance will be due by Wednesday, 3rd of April - a week before.
Please log on to Civica Pay in order to reserve your child’s place. If you are having difficulty paying for this, due to technical problems or other reasons, please get in contact with us as soon as possible. Don’t wait until the date comes around!
![](https://static.wixstatic.com/media/44cb66_d081d337ca314177814b699ec7ca8306~mv2.jpg/v1/fill/w_567,h_401,al_c,q_80,enc_auto/44cb66_d081d337ca314177814b699ec7ca8306~mv2.jpg)
Ages 6-11
Urdd Half Term Sports Activity - Final Reminder
On Friday, 16th of February (during half term) between 10am and 12pm, the Urdd and Bron Afon are working in partnership in order to provide a sports activity morning at the school. This is a free event for children aged 6-11.
Book on now by following this link: https://www.eventbrite.co.uk/e/multi-sports-ages-6-11-tickets-813981880717?aff=ebdsoporgprofile
RECEPTION TO YEAR 2
Weekly Gymnastics Club - Reminder
The Urdd will be starting their gymnastics club back up on Wednesdays between 4:45 and 5:30. This club will be run for children in Reception, Year 1 and Year 2. The club will initially run for 4 weeks (starting on the 21st of February) and if there is sufficient interest the Urdd will look at extending. The cost of this initial course is £14 payable directly to the Urdd upon booking.
Book on now by following this link:
RECEPTION TO YEAR 6
Half Term Fun Session with Menter Iaith - Final Reminder
On Thursday, 15/02/2023 between 10am and 12pm, join Menter Iaith at Ysgol Panteg over the Half Term for a morning full of fun in the school hall aimed at promoting the use of the Welsh language outside the classroom. There will be lots to do including Arts and Crafts and lots of games. This is suitable for children over 5 years old. Numbers are limited so please book your place ASAP. There is no online registration fee, however, the morning will cost £3, and Menter Iaith will be in contact via e-mail with an invoice and details of how to pay. For more info please contact: post@menterbgtm.cymru.
Follow this link to book!
Commentaires