SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
PAWB
Newyddion da!
Fel Teulu Panteg, mae gyda ni’n pleser o longyfarch Mrs. Catrin Wallis Evans ar enedigaeth ei bachgen bach newydd! Roedd yn 8 pwys 1 owns a chafodd ei eni fore Mercher am 2:32am. Dymunwn y gorau i Mrs Wallis Evans, Mr Dafydd Evans (y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn ei adnabod), Gweni a Gethin wrth iddynt ddod yn deulu o 5! Nid ydym yn medru aros clywed ei enw - pan mae un wedi dewis!
PAWB
Tocynnau Cyngerdd Nadolig
Diolch i bawb a ymgeisiodd am docynnau ychwanegol ar gyfer ein cyngherddau Nadolig. Mae'r swyddfa wedi bod yn gweithio'n galed i ddyrannu'r tocynnau hyn heddiw. Mae’r rhain bellach wedi’u rhannu’n deg ac ar sail y cyntaf i’r felin.
Yn anffodus, fel y disgwyliwyd, roedd gennym lawer mwy o geisiadau na thocynnau oedd ar gael.
1) Mae tocynnau ychwanegol wedi eu hanfon adref heddiw. Rydym wedi cadw rhestrau o bwy sydd wedi cael pa docynnau.
2) Os penderfynwch, am ryw reswm, nad oes angen tocyn neu docynnau arnoch, rhowch wybod i’r swyddfa gan fod gennym restr aros.
3) Cofiwch na fydd bygis a strollers yn cael mynediad i'r neuadd ar y diwrnod.
BLWYDDYN 2 I 6
Pantomeim - Atgof Olaf
Os yw eich plentyn ym Mlwyddyn 2, 3, 4, 5 neu 6, mewngofnodwch i CivicaPay er mwyn talu am docynnau i’r pantomeim ar fore dydd Gwener, 22ain o Ragfyr. Mae angen gwneud hyn erbyn dydd Llun, 4ydd o Ragfyr, 2023 am 10:00yb. Cost cludiant a mynychu'r pantomeim hwn yw £11.00. Fodd bynnag, os ydych yn derbyn y Grant Datblygu Disgyblion bydd gostyngiad o 10% eisoes yn cael ei gymhwyso i gyfrif eich plentyn. Os oes angen cymorth arnoch, naill ai gydag elfennau technegol CivicaPay neu rywbeth arall, mae croeso i chi gysylltu â ni.
BLWYDDYN 4 I 6
Partïon ‘Pysgod a Sglodion’ - Atgof Olaf
Os yw eich plentyn ym Mlynyddoedd 4, 5 neu 6, mewngofnodwch i CivicaPay er mwyn cadarnhau a fydd eich plentyn yn aros ar gyfer ein partïon ‘Pysgod a Sglodion’. Cost hyn yw £4 y plentyn. Mae angen gwneud hyn erbyn dydd Llun, 4ydd o Ragfyr, 2023 am 10:00yb. Os oes angen cymorth arnoch, naill ai gydag elfennau technegol CivicaPay neu rywbeth arall, mae croeso i chi gysylltu â ni.
BLWYDDYN 1 I 3
Partïon Nadolig Blwyddyn 1, 2 a 3 - Atgof Olaf
Os yw eich plentyn ym Mlwyddyn 1, 2 neu 3, dilynwch y ddolen hon i gofrestru ar gyfer y partïon Nadolig ar ôl ysgol fel yr amlinellir ar y calendr. Nid oes unrhyw gost yn gysylltiedig â'r partïon hyn. Fodd bynnag, mae angen i chi fod wedi cofrestru eich plentyn erbyn dydd Llun, 4ydd o Ragfyr, 2023 am 10:00yb.
PAWB
CRhA - Atgof
Rydym mewn dirfawr angen gwirfoddolwyr ar gyfer y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon. Heb gefnogaeth, ni all y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon weithredu sy’n golygu na all llawer o bethau neis sy’n cael eu trefnu yn yr ysgol i’r plant fynd ymlaen yn y flwyddyn newydd. Ar hyn o bryd, dim ond 7 person sydd wedi arwyddo i fyny! Rydyn ninwir angen llawer mwy o bobl!
Mae'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn prynu anrhegion Nadolig i'r ysgol, yn trefnu ffeiriau ysgol a chefnogaeth mewn digwyddiadau. O’r herwydd, rydym yn cynnal cyfarfod blynyddol ar ddydd Mawrth, Rhagfyr 5ed yn yr ysgol am 5:30-6:30. Yn y cyfarfod hwn, byddwn yn edrych ar rolau’r pwyllgor, digwyddiadau yn y flwyddyn newydd a chynyddu ymgysylltiad rhieni â’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon. Gwnewch bob ymdrech i fod yn rhan o hyn gan ei fod o fudd uniongyrchol i'r plant. Rhowch wybod i mi eich bod yn dod trwy gofrestru gan ddefnyddio'r ddolen hon: https://forms.gle/rtnxUVVNPUTsvtaz8
PAWB
Yn Dod ar y Calendr!
Peidiwch ag anghofio edrych ar eich calendr Nadolig i weld beth sy'n digwydd yn yr ysgol. Mae’r calendr llawn ar ein gwefan os na allwch ddod o hyd iddo! (https://www.ysgolpanteg.cymru).
WYTHNOS NESAF:
Dydd Llun (4/12) – Cofiwch mai dyma’r dyddiad cau ar gyfer archebu lle i’ch plentyn ar gyfer partïon Nadolig!
Mae angen archebu partïon Cam Cynnydd 2 drwy’r ddolen hon: https://forms.gle/vrW3pJAnrqSkFT9y5
Mae angen archebu Partïon Pysgod a Sglodion Cam Cynnydd 3 ar Civica Pay.
Dydd Mawrth (5/12) - BLYNYDDOEDD 4, 5 A 6: Cam Cynnydd 3, Ymarfer Gwisg Cyngerdd Carolau
Dydd Mawrth - BLWYDDYN 1: Parti a Gemau Nadolig (3:30-4:30; gall plant ddod i'r ysgol yn eu dillad parti, dim cost ychwanegol).
Dydd Mawrth – BLWYDDYN 2 A 3: Canu yn Ysbyty’r Sir. Os yw eich plentyn i fod yn mynd i hyn, bydd Ms Phillips yn cysylltu trwy ClassDojo.
Dydd Mercher (6/12) - BLWYDDYN 6: Cyngerdd Ysgol Gymraeg Gwynllyw ar gyfer Blwyddyn 6. Dim cost am y digwyddiad hwn - costau cludiant yn cael eu talu gan yr ysgol.
Dydd Mercher - BLWYDDYN 2: Parti a Gemau Nadolig (3:30-4:30; gall plant ddod i'r ysgol yn eu dillad parti, dim cost ychwanegol).
Dydd Iau (7/12) – BLYNYDDOEDD 4, 5 A 6: Cam Cynnydd 3 Cyngerdd Carolau yn Neuadd yr Ysgol. Bydd perfformiad bore (10:15am) a pherfformiad prynhawn (1:45pm).
Dydd Iau – BLWYDDYN 3: Parti a Gemau Nadolig (3:30-4:30; gall plant ddod i’r ysgol yn eu dillad parti, dim cost ychwanegol).
Dydd Gwener (8/12) – PAWB: Diwrnod Siwmper Nadolig (gyda chyfraniad o £1 at elusen; os nad oes gan eich plentyn siwmper Nadolig gallwch addurno crys-t plaen neu wisgo tinsel!)
Dydd Gwener – PAWB: Cardiau Nadolig gan Staff yn mynd allan i Blant a Theuluoedd
PAWB
Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig Blynyddol
Mae’n bleser gen i gyhoeddi enillwyr cystadleuaeth cerdyn Nadolig yr ysgol eleni! Rwyf mor falch bod cymaint o blant wedi cymryd rhan eleni - bron i ddwbl o gymharu â llynedd!
Mae’n waith hynod o galed yn dewis dim ond un enillydd o bob dosbarth. Roedd cymaint o syniadau da ac mae cymaint o ymdrech wedi mynd i mewn i gymaint o gardiau. Fodd bynnag, mewn cystadleuaeth, mae'n rhaid cael enillydd. Felly isod, dewch o hyd i restr o enillwyr 2023!
Meithrin - Jac Stahl & Aida-Florence Taylor
Glas Coed - Jesse Mills
Tŷ Coch - Evan Groves
Maes Gwyn - Adelyn John
Tŷ Cadno - Freddy Young
Ysgubor Goed - Eliza Bladen
Capel Llwyd - Ben Redwood
Groes Fach - Osian Norman
Pont Rhun - Hardy Smith
Pen y Llan - Seren Ackman-Day
Coed y Canddo - Jayden Chaney
Cwm Bwrwch - Carys Nutt
Craig y Felin - Ava-Rose Richards
Gwaun Hywel - Tiana Edwards
Cwm Lleucu - Skyla-Rae Stark
Llongyfarchiadau!!!
PAWB
Adborth Estyn
Diolch i bawb sydd wedi bod yn darllen ac yn rhannu ein negeseuon cyfryngau cymdeithasol, yn anfon negeseuon ac yn siarad â staff am ein harolwg ac adroddiad diweddar gan Estyn. Rydym wir yn gwerthfawrogi. Os nad ydych chi ar y cyfryngau cymdeithasol neu wedi methu rhai o’r postiadau – dyma fideo sy’n cymryd rhai o bwyntiau allweddol yr adroddiad.
Fesiwn Cymraeg - https://www.youtube.com/watch?v=S_5POEERkQU
Fersiwn Saesneg - https://www.youtube.com/watch?v=3b2PU7oiK6k
EVERYONE
Good News!
As Teulu Panteg, we have the pleasure of congratulating Mrs. Catrin Wallis Evans on the birth of her new baby boy! He was 8lbs 1oz and was born on Wednesday morning at 2:32am. We wish Mrs Wallis Evans, Mr Dafydd Evans (who most of you will know), Gweni and Gethin all the best as they have become a family of 5! We can’t wait to find out his name - when one has been chosen!
EVERYONE
Christmas Concert Tickets
Thank you to all who applied for extra tickets for our Christmas concerts. The office have been working hard to allocate these tickets today. These have now been shared fairly and on a first come, first served basis.
Unfortunately, as was expected, we had far more applications than tickets available.
1) Extra tickets have been sent home today. We have kept lists of who has been allocated what tickets.
2) If, for some reason, you decide you don’t need a ticket or tickets, please let the office know since we have a waiting list.
3) Please be aware that buggies and strollers will not be admitted to the hall on the day.
YEARS 2 TO 6
Pantomime - Last Reminder
If your child is in Year 2, 3 ,4, 5 or 6, please log into CivicaPay in order to pay for tickets to the pantomime on the morning of Friday, 22nd of December. This needs to be done by Monday, 4th of December, 2023 at 10:00am. The cost of transport and attending this pantomime is £11.00. However, if you are in receipt of the Pupil Development Grant a 10% reduction will already be applied to your child's account. If you need support, either with technical elements of CivicaPay or something else, please do not hestitate to get in contact with us.
YEAR 4-6
‘Fish and Chip' Parties - Last Reminder
If your child is in Years 4, 5 or 6, please log into CivicaPay in order to confirm whether your child will be staying for our 'Fish and Chip' parties. The cost of this is £4 per child. This needs to be done by Monday, 4th of December, 2023 at 10:00am. If you need support, either with technical elements of CivicaPay or something else, please do not hesitate to get in contact with us.
YEARS 1-3
Years 1, 2, and 3 Parties - Last Reminder
If your child is in Year 1, 2 or 3, please follow this link to sign up for the after-school Christmas parties as outlined on the calendar. There is no cost associated with these parties. However, you need to have signed your child up by Monday, 4th of December, 2023 at 10:00am.
EVERYONE
PTA - Reminder
We are in desperate need of volunteers for the PTA. Without support, the PTA cannot function which means that lots of nice things that are arranged at school for the children, can’t go ahead in the new year. At present, only 7 people have signed up to help. We need a lot more people!
The PTA purchase Christmas gifts for the school, arrange school fetes and support at events. As such, we are holding an AGM meeting on the Tuesday, 5th of December at the school at 5:30-6:30. At this meeting, we will be looking at roles of the committee, events in the new year and increasing parental engagement with the PTA. Please make every effort to be a part of this since it directly benefits the children. Let me know you are coming by signing up using this link: https://forms.gle/rtnxUVVNPUTsvtaz8
EVERYONE
Coming Up on the Calendar!
Don’t forget to check your Christmas calendar to see what is happening in school. The full calendar is on our website if you can’t find it! (https://www.ysgolpanteg.cymru/).
NEXT WEEK:
Monday (4/12) – Remember this is the cut off date for booking your child on to Christmas parties!
Progress Step 2’s parties need to be booked via this link: https://forms.gle/vrW3pJAnrqSkFT9y5
Progress Step 3’s Fish and Chip Parties need to be booked on Civica Pay.
Tuesday (5/12) - YEARS 4. 5 AND 6: Progress Step 3 Carol Concert Dress Rehearsal
Tuesday - YEAR 1: Christmas Party and Games (3:30-4:30; children can come to school in their party clothes, no additional cost).
Tuesday - YEAR 2 AND 3: Group Singing at the County Hospital. If your child is due to be going to this, Ms. Phillips will in touch via ClassDojo.
Wednesday (6/12) - YEAR 6: Ysgol Gymraeg Gwynllyw Concert for Year 6. No cost for this event - transport costs covered by the school.
Wednesday - YEAR 2: Christmas Party and Games (3:30-4:30; children can come to school in their party clothes, no additional cost).
Thursday (7/12) – YEARS 4. 5 AND 6: Progress Step 3 Carol Concert at the School Hall. There will be a morning performance (10:15am) and an afternoon performance (1:45pm).
Thursday – YEAR 3: Christmas Party and Games (3:30-4:30; children can come to school in their party clothes, no additional cost).
Friday (8/12) – EVERYONE: Christmas Jumper Day (with a cash donation of £1 for charity; if your child doesn't have a Christmas jumper you can decorate a plain t-shirt or just wear some tinsel!)
Friday – EVERYONE: Christmas Cards from Staff going out to Children and Families
EVERYONE
Annual Christmas Card Competition
It is my pleasure to announce the winners of this year’s school Christmas card competition! I am so pleased that so many children took part this year - nearly double compared with last year!
It’s an incredibly hard job picking only one winner from each class. There were so many good ideas and so much effort has gone into so many cards. However, in a competition, there has to be a winner. So below, please find a list of 2023’s winners!
Meithrin - Jac Stahl & Aida-Florence Taylor
Glas Coed - Jesse Mills
Tŷ Coch - Evan Groves
Maes Gwyn - Adelyn John
Tŷ Cadno - Freddy Young
Ysgubor Goed - Eliza Bladen
Capel Llwyd - Ben Redwood
Groes Fach - Osian Norman
Pont Rhun - Hardy Smith
Pen y Llan - Seren Ackman-Day
Coed y Canddo - Jayden Chaney
Cwm Bwrwch - Carys Nutt
Craig y Felin - Ava-Rose Richards
Gwaun Hywel - Tiana Edwards
Cwm Lleucu - Skyla-Rae Stark
Llongyfarchiadau!!!
EVERYONE
Estyn Feedback
Thank you to all who have been reading and sharing our social media posts, messaging in and speaking to staff about our recent Estyn inspection and report. We truly appreciate. If you are not on social media or have missed some of the posts – here is a video taking some key points from the report.
Welsh Version - https://www.youtube.com/watch?v=S_5POEERkQU
English Version - https://www.youtube.com/watch?v=3b2PU7oiK6k
Comments