SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
PAWB
Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgyblion
Diolch yn fawr iawn i’r rhai a ddaeth i’n ‘Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgyblion’ neu drefnu cyfarfod rhithwir. Mae'r rhain yn wirioneddol amhrisiadwy i'n partneriaeth â chi fel teuluoedd.
Mae gennym ychydig o deuluoedd rydym yn dal i fyny gyda nhw dros yr wythnos nesaf a dosbarth oedd yn gorfod aildrefnu oherwydd salwch. Gobeithiwn fod wedi trafod gyda 100% o deuluoedd erbyn diwedd yr wythnos.
Cofiwch ein bod yn gweithredu polisi drws agored. Er bod y cyfarfodydd hyn yn gyfarfodydd wedi’u hamserlennu gydag athro eich plentyn, rydym yn eich annog i gadw mewn cysylltiad trwy ClassDojo, e-bost neu alwad ffôn i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych neu i godi unrhyw bryder.
PAWB
Casgliad Cynhaeaf
Mae'r cynhaeaf bron yma! Dyma amser pan allwn fod yn ddiolchgar am yr hyn sydd gennym a chefnogi ein gilydd.
Fel rydym wedi ei wneud mewn blynyddoedd blaenorol, pan fyddwn yn casglu ar gyfer ein dathliadau Cynhaeaf, gofynnwn i deuluoedd ddod ag eitemau i mewn i'w rhoi i ‘Panteg Food Share’.
Sefydliad sy'n gweithio'n lleol ac a sefydlwyd gan bobl leol yw'r ‘Panteg Food Share’. Er bod y ‘Panteg Food Share’ yn hapus i dderbyn unrhyw roddion, rydym wedi siarad â’r tîm ac maent wedi rhoi rhestr i ni o eitemau y maent yn mynd drwyddynt yn gyflym iawn ac angen mwy o’r canlynol bob amser:
Llaeth UHT
Bara
Menyn
Ffa pob
Sbageti tun
Tomatos tun
Cig tun
Jam
Bisgedi
Grawnfwyd
Te
Reis
Nid oes pwysau i'w roi i'r casgliad Cynhaeaf hwn. Ac, gofynnwn i chi roi, dim ond os na fydd yn niweidiol i'ch teulu.
Os ydych yn gallu ac eisiau rhoi i'r casgliad hwn, gofynnwn yn garedig i chi anfon yr eitemau erbyn dydd Mercher, 25ain o Hydref (wythnos nesaf). Ar y diwrnod hwnnw, byddwn yn cynnal gwasanaeth arbennig yn canolbwyntio ar ddiolchgarwch a bod yn ddiolchgar am yr hyn sydd gennym.
Rydym yn diolch o flaenllaw am eich cymorth gyda’r mater hwn.
PAWB
Trefniadau Gollwng
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ein trefniadau boreol. Felly, ar ôl nifer o geisiadau gan deuluoedd a thrafodaethau gyda'r Cyngor Ysgol, rydym yn mynd i fod yn sefydlu parth gollwng o ddydd Iau.
Bydd y man tynnu i mewn agosaf at y Tŷ Eco nawr yn cael ei ddynodi'n barth gollwng. Bydd hwn yn barth dim aros o gwbl ac rydym yn rhagweld y bydd teuluoedd sy'n gollwng heb i'r oedolyn ddod allan o'r car yn gallu defnyddio'r cyfleuster hwn yn llawer cyflymach na gorfod parcio. Fe fydd hyn wedyn yn ryddhau llefydd parcio i’r rhai sydd angen.
Byddwn yn treialu hyn am y 4 wythnos nesaf i weld a yw hyn yn helpu i wella amseroedd gollwng a diogelwch.
Mae nifer o deuluoedd yn gollwng plant ar ganol y ffordd - oherwydd maint y traffig. Gobeithio y bydd ychwanegu parth gollwng yn helpu i gadw pawb yn ddiogel.
Gofynnwn yn garedig i neb barcio yn y parth hwn o ddydd Iau ymlaen. Os oes gennych berthnasau sy'n gollwng ac yn codi, rhowch y wybodaeth hon iddynt hefyd.
Bydd aelod o staff yn bresennol ar y pwynt hwn o 8:45-9:00yb i sicrhau bod plant yn mynd yn syth trwy’r giatiau.
BLWYDDYN 4
Taith Dros Nos Bae Caerdydd - Atgof
Diolch i'r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer Taith Dros Nos Bae Caerdydd (08/11/2023-09/11/2023).
Cost y daith fydd £92.00 (gyda gostyngiad o 10% i'r rhai sy'n derbyn y Grant Datblygu Disgyblion). Mae'r gost hon yn cynnwys yr holl weithgareddau, bwyd a thrafnidiaeth.
Disgwylir y balans erbyn dydd Llun, 6ed o Dachwedd. Os ydych yn cael unrhyw drafferth talu, technegol neu fel arall, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.
Mae'r plant bob amser wrth eu bodd â'r daith hon - gan ei bod yn arhosiad llawn hwyl! Fodd bynnag, rydym yn gwybod mai dyma fydd eu tro cyntaf i ffwrdd i lawer. Felly, rydym bob amser yn cynnig sesiwn cwestiwn ac ateb i leddfu unrhyw bryder a helpu teuluoedd i wybod beth i'w ddisgwyl. Cynhelir hwn am 4:30pm ar ddydd Mawrth, 24ain o Hydref yn neuadd yr ysgol.
PAWB
Etholiad Rhiant Lywodraethwyr - Nodyn Atgoffa
Gan fod nifer yr enwebiadau ar gyfer Cynrychiolydd/Cynrychiolwyr Rhiant Lywodraethwyr ar Gorff Llywodraethol Ysgol Panteg yn fwy na nifer y lleoedd gwag, mae angen cynnal pleidlais gudd. Dim ond rhieni disgyblion sydd wedi'u cofrestru yn yr ysgol sydd â'r hawl i bleidleisio.
Fe'ch gwahoddir i fwrw'ch pleidlais drwy gwblhau'r papur pleidleisio a anfonwyd adref gyda'ch plentyn ddydd Gwener a'i ddychwelyd at y Pennaeth. Rhaid derbyn papurau pleidleisio erbyn dydd Gwener, 20 Hydref, 2023 am 3.00pm fan bellaf.
Os ydych yn cael unrhyw drafferth gyda hyn o gwbl. Cysylltwch â'r swyddfa cyn gynted â phosibl.
EVERYONE
Pupil Progress and Wellbeing Meetings
Thank you so much for those who came to our ‘Pupil Progress and Wellbeing Meetings’ or arranged a virtual meeting. These really are invaluable to our partnership with you as families.
We have a few families we are catching up with over the next week and a class who had to rearrange due to illness. We hope to have discussed with 100% families by the end of the week.
Please remember that we operate an open door policy. Even though these meetings are scheduled meetings with your child’s teacher, we encourage you to keep in contact via ClassDojo, email or phone call to ask any questions you may have or raise any concern.
EVERYONE
Harvest Collection
Harvest is nearly upon us! This is a time when we can be thankful for what we have and support each other.
As we have done in previous years, when we collect for our Harvest celebrations, we ask families to bring in non-perishable items to donate to the Panteg Food Share.
The Panteg Food Share are an organisation working locally and set up by local people. Although the Panteg Food Share are happy to receive any donations, we have spoken to the team and they have given us a list of items that they go through very quick and always need more of:
UHT milk
Bread
Butter / spread
Baked beans
Tinned spaghetti
Tinned tomatoes
Tinned meat
Jam
Biscuits
Cereal
Tea
Rice
There is no pressure to give to this Harvest collection. And, we ask that you only give if it won’t be at a detriment to your family.
If you are able and want to give to this collection, we kindly ask that you send in the items by Wednesday, 25th of October (next week). On that day, we will be holding a special assembly focusing on gratefulness and being thankful for what we have.
We thank you in advance for your support with this matter.
EVERYONE
Drop Off Arrangements
We are always looking for ways to improve our morning drop off arrangements. Therefore, after a number of requests by families and discussions with the School Council, we are going to be instating a drop-off zone from Thursday.
The pull-in nearest the Eco House will now be designated as a drop off zone. This will be a strictly no waiting zone and we envisage that families who drop off without the adult getting out of the car will be able to use this facility much quicker than having to park up. This will hopefully free up car parking spaces for those who need to use them.
We will be trialling this for the next 4 weeks to see if this helps to improve drop off times and safety.
A number of families are dropping off children in the middle of the road – because of the volume of traffic. The addition of a drop-off zone will hopefully help to keep everyone safe.
We ask kindly that no one parks in this zone from Thursday onwards. If you have relatives who drop off and pick up, please let them know this information too.
A member of staff will be present at this point from 8:45-9:00am to ensure children go straight through the gates.
YEAR 4
Cardiff Bay Overnight Trip - Reminder
Thank you to those who have signed up for the Cardiff Bay Overnight Trip (08/11/2023-09/11/2023).
The cost of the trip will be £92.00 (with a 10% reduction for those in receipt of the Pupil Development Grant). This cost includes all activities, food and transport.
The balance is due by Monday, 6th of November. If you are having any trouble paying, technical or otherwise, please get in contact with us as soon as possible.
The children always love this trip - since it is such a fun packed stay! However, we know that for many this will be their first time away. So, we always offer a question and answer session to ease any anxiety and help families know what to expect. This will be held at 4:30pm on Tuesday, 24th of October in the school hall.
EVERYONE
Parent Governor Election - Reminder
As the number of nominations for Parent Governor Representative(s) on the Governing Body of Ysgol Panteg exceeds the number of vacancies, it is necessary to hold a secret ballot. Only parents of pupils registered at the school are entitled to vote.
You are invited to cast your vote by completing the ballot paper sent home with your child on Friday and returning it to the Headteacher. Ballot papers must be received by Friday, 20th of October, 2023 at 3.00pm at the latest.
If you are having any trouble with this at all. Please get in contact with the office as soon as possible.
Comments