top of page

Bwletin y Pennaeth - 19.07.2022 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

Croeso i fwletin olaf y flwyddyn academaidd! Mae’r haf ar ein gwarthaf – ac a dweud y gwir, rydyn ni’n toddi yn y tywydd poeth yma!


Eleni, rydyn ni wedi dod yn bell iawn. Yn fy swyddfa, mae ffeil sy'n cynnwys yr holl fwletinau o'r flwyddyn hon – mae'n llawn dop er mai dim ond rhan fechan o'r hyn sydd wedi digwydd eleni sydd yn y bwletin!


Diolch i bob plentyn a phob teulu am eich cefnogaeth ac anogaeth barhaus. Rydym yn wir yn deulu. Mae ein plant a’n staff mor ddiolchgar am eich cefnogaeth. Yn bersonol, edrychaf ymlaen at fis Medi pan fyddwn yn cymryd ein camau nesaf fel ysgol i hybu ein gwelliant a’n datblygiad ymhellach fel y gallwn fod yn darparu’r addysg orau bosibl i bob plentyn.


Mwynhewch eich gwyliau haf – gobeithio y cewch chi dreulio amser gwerthfawr gyda'r teulu cyfan.

Ameer Davies Rana

Ddoe, cafodd Blwyddyn 4 a 5 weithdy vlogio gan Ameer Davies Rana sydd wedi gwneud llawer o waith i S4C. Rydym mor falch y gallwn gael pobl sy'n arbenigwyr i siarad â'r plant a dysgu sgiliau gwahanol iddynt!


Dau Ddiwrnod Terfynol Blwyddyn 6

Rydym yn gyffrous ar gyfer Gŵyl Hawäi yfory! Mae gennym ni’r bwyd, y gerddoriaeth a’r gemau i gyd wedi’u trefnu! Dydd Iau, maen nhw'n edrych ymlaen at eu brwydr ddŵr! Rydym mor falch y rhagwelir y bydd y gwres yn cilio fel y gallant fwynhau'r ddau ddiwrnod olaf hyn.


Ddoe, cafodd Blwyddyn 6 eu gwasanaeth ymadawyr. Buont yn canu yn arbennig o dda ac wedi mwynhau eu hamser! Cawsant eu hwdis, anrheg fach gan yr ysgol, portread ohonynt eu hunain (wedi’i baentio gan y dosbarth Derbyn!) a chylch allweddi i’n cofio ym Mhanteg.


Diolch hefyd i nain Riley-Jay a ddaeth â chacen hyfryd iddyn nhw i gyd ei mwynhau hefyd!

Diwedd Ysgol – Dydd Iau yma

Dim ond nodyn atgoffa cyflym iawn – ysgol yn dod i ben ar ddydd Iau (21ain o Orffennaf). Os dewch chi ddydd Gwener – fydd neb yma!


Diwrnodau Hyfforddiant y Flwyddyn Nesaf

-Dydd Gwener, 2 Medi, 2022 (sy'n golygu y bydd y flwyddyn academaidd newydd yn dechrau i blant ddydd Llun, 5ed Medi, 2022)

-Dydd Llun, 7fed o Dachwedd, 2022 (yn dilyn Gwyliau Hanner Tymor yr Hydref)

-Dydd Llun, 9fed o Ionawr, 2023 a dydd Mawrth, 10fed o Ionawr, 2023 (yn dilyn Gwyliau'r Nadolig)

-Dydd Llun, 17eg o Ebrill, 2023 (yn dilyn Gwyliau'r Pasg).


Mae un dyddiad arall eto i’w neilltuo ers inni gael gwybod ddydd Llun y byddem yn cael 6 diwrnod hyfforddi yn hytrach na 5. Byddaf yn sicrhau fy mod yn rhoi digon o rybudd ichi pryd y bwriadwn gymryd y diwrnod hwn.


Gwersi Cerdd

Rydym yn hynod gyffrous i gyhoeddi ein bod wedi bod yn gweithio i drefnu gwersi cerdd ar gyfer ein holl blant Blwyddyn 4, 5 a 6. Bydd Mr Beecham yn dysgu’r plant, yn wythnosol, mewn grwpiau bach ar gyfer tymor yr Hydref. Byddwn yn dysgu ukeleles ym Mlwyddyn 6, glockenspiels ym Mlwyddyn 5 a chwibanod ceiniog ym Mlwyddyn 4.


Mae ein prosiect llinynnau babanod yn parhau hefyd – bydd Mrs Marie Evans yn dysgu holl ddisgyblion Blwyddyn 1 (dosbarthiadau Derbyn y flwyddyn academaidd hon) sut i ganu’r ffidil. Rwy’n siŵr, os gofynnwch i’n disgyblion Blwyddyn 1 presennol, y byddant yn dweud wrthych faint y maent wedi’i fwynhau.


Ein cynllun yw rhoi cyfleoedd i Flwyddyn 2 a 3 ddysgu offeryn yn ddiweddarach yn y Flwyddyn.


I roi hwb i ni, yfory, mae gennym rai o'n plant yn dysgu rhai offerynnau samba fel diwedd hwyl i'r flwyddyn ysgol!


Cornel y Llywodraethwyr

Fy enw i yw Martyn Redwood, rwy'n un o Rieni Lywodraethwyr Newydd Ysgol Panteg, mae gen i ddau o blant, un ym Mlwyddyn 4 a'r llall yn y Derbyn. Fi yw Rheolwr Theatr y Congress yng Nghwmbrân, swydd sy’n amrywiol iawn ac sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu llawer o sgiliau dros y blynyddoedd. Dwi hefyd yn helpu gyda’n Theatr Ieuenctid a does dim byd mwy pleserus na gweld plant yn mwynhau perfformio ar lwyfan ac yn tyfu mewn hunan hyder. Y tu allan i'r gwaith, rwy'n mwynhau treulio amser gyda'r teulu a mynd â'r plant i'w gwahanol glybiau/gweithgareddau.

 

Welcome to the last bulletin of the academic year! Summer is upon us – and, frankly, we’re melting in this heatwave!


This year, we’ve come a really long way. In my office, there is a file that contains all the bulletins from this year – its bursting even though the bulletin only contains a fraction of what has happened!


Thank you to every child and every family for your continued support and encouragement. We really are Teulu Panteg. Our children and staff are so grateful for your support. I, personally, look forward to September when we take our next steps as a school, furthering our improvement and development even more, so that we can be providing the best education possible for every child.


Enjoy your Summer break – I hope that you get to spend quality time with the whole family.

Ameer Davies Rana

Yesterday, Year 4 and 5 had a vlogging workshop from Ameer Davies Rana who is has done lots of work for S4C. We are so pleased that we can have people in who are specialists to talk to the children and teach them different skills!


Year 6 Final Two Days

We are excited for tomorrow’s Hawaiian Festival! We’ve got the food, the music and all the games organised! Thursday, they are looking forward to their waterfight! We are so glad that the heat is forecast to receed so that they can enjoy these final two days.


Yesterday, Year 6 had their leavers assembly. They sang really well and thoroughly enjoyed their time! They collected their hoodies, a small gift from the school, a portrait of themselves (painted by the Reception class!) and a keyring to remember us all at Panteg.


Thanks also to Riley-Jay’s nan who brought a lovely cake for them all to enjoy too!

End of School – This Thursday

Just a really quick reminder – school ends on Thursday (21st of July). If you come on Friday – no one will be here!


Next Year’s Training Days

-Friday, 2nd of September, 2022 (which means the new academic year will start for children on Monday, 5th September, 2022)

-Monday, 7th of November, 2022 (following the Autumn Half Term Holidays)

-Monday, 9th of January, 2023 & Tuesday, 10th of January, 2023 (following the Christmas Holidays)

-Monday, 17th of April, 2023 (following the Easter Holidays).


There is one other date yet to be allocated since we were informed on Monday that we would be given 6 training days rather than 5. I will ensure that I give you enough notice of when we plan to take this day.


Music Lessons

We are really excited to announce that we have been working to organise music lessons for all of our Year 4, 5 and 6 children. Mr Beecham will be teaching the children, weekly, in small groups for the Autumn term. We will be teaching ukeleles in Year 6, glockenspiels in Year 5 and pennywhistles in Year 4.


We also have our infant strings project continuing – Mrs Marie Evans will be teaching all of the Year 1s (this academic year’s Reception classes) how to play the violin. I am sure that if you ask our current Year 1 pupils, they will tell you how much they have enjoyed.


Our plan is to give opportunities for Year 2 and 3 to learn an instrument later in the Year.


To kick start us, tomorrow, we have some of our children learning some samba instruments as a fun end to the school year!


Governor Corner

My Name is Martyn Redwood, I am one of the New Parent Governors at Ysgol Panteg, I have two children, one in Year 4 and the other in Derbyn. I am the Manager of the Congress Theatre in Cwmbran, a job which is very varied and has enabled me to develop many skills over the years. I also help with our Youth Theatre and there is nothing more enjoyable than seeing children enjoying performing on stage and growing in self confidence. Outside of work, I enjoy spending time with family and taking the children to their different clubs/activities.



172 views

Comments


bottom of page