SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
Gweithgareddau Diwylliant Cymreig
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym wedi cynnal nifer o weithgareddau cyffrous i’n plant. Rydym wedi cael yr athletwraig o Gymru, Lowri Morgan, i mewn i fod yn rhan o’n diwrnod ysbrydoli ar gyfer Blynyddoedd 1-3. Cafodd y plant eu swyno gan ei straeon am fentro a bod yn athletwr proffesiynol. Ddoe, rydym wedi cael gwersi clocsio traddodiadol ar gyfer ein dosbarthiadau Cam Cynnydd 3. Rydym yn gyson yn ceisio ehangu gorwelion ein plant trwy ddarparu amrywiaeth eang yn ein cwricwlwm i gyfoethogi’r dysgu.
Côr
Ddoe, oedd yr ymarfer côr cyntaf i Flynyddoedd 4-6 o dan gyfarwyddyd Mr Beecham. Roedd y plant yn swnio'n ffantastig! Mae dal lle yn y clwb yma os hoffai eich plentyn ymuno! Ebostiwch y swyddfa i gadw lle!
Wythnos Cerdded i'r Ysgol
Mae'r wythnos nesaf yn cael ei neilltuo'n genedlaethol fel wythnos cerdded i'r ysgol. Rydym yn deall bod llawer o'n plant yn dod ar gludiant ysgol - felly ni fydd yn bosibl i lawer. Fodd bynnag, os gallwch gerdded i'r ysgol - hyd yn oed os nad yw bob dydd - bydd yn gwneud gwahaniaeth. Y rheswm y tu ôl i'r fenter hon yw tynnu sylw at y posibilrwydd o ffyrdd yn rhydd o dagfeydd, lefelau is o lygredd, lleihau'r risg o salwch y gellir ei atal ac ynysu cymdeithasol a gwneud cerdded yn ddewis naturiol.
Felly, o’r 16eg i’r 20fed o Fai, os gallwch chi, gwnewch y dewis i gerdded i’n hysgol.
Swyddi i ddod yn Ysgol Panteg
Ydych chi'n addas ar gyfer un o'r swyddi hyn yn Ysgol Panteg? Gwnewch gais heddiw! Ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n addas i weithio yn un o'r rolau hyn? Anogwch nhw i wneud cais!
-Swyddog Cefnogi Ysgol Llawn Amser, Lefel 2 / Derbynnydd
-Cynorthwyydd Addysgu (rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg)
-Cynorthwyydd Addysgu Cynllun Prosiect Blwyddyn Allan
Taith Pontio Blwyddyn 6 gyda Gwynllyw
Ar Ddydd Iau, 26ain o Fai, mae gennym daith pontio i ddisgyblion Blwyddyn 6 i Gronfa Ddŵr Llandegfedd. Os oes gennych blentyn ym Mlwyddyn 6 gwyliwch am y slip caniatâd. Am gwpl o wythnosau cyffrous mae hyn am fod i'n plant Blwyddyn 6 - eu trip pontio a'u trip preswyl dros nos! Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr bod Ffrindiau Panteg wedi cytuno i ariannu’r ymweliad hon - mae wedi bod yn amser drud i’n teuluoedd ym Mlwyddyn 6.
Arweinydd Lles
Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod wedi penodi arweinydd lles newydd ar gyfer ein hysgol. Mae Miss Caitlin Harley bellach yn cymryd drosodd y rôl yr oedd Miss Stacey Prosser yn arfer ei dal.
Lles yw un o'r pethau pwysicaf i'n plant. Cyn y gall plant ddysgu mae'n rhaid bod rhai blociau adeiladu lles yn eu lle. Rydym yn gyffrous, felly, ein bod yn ehangu ein tîm arbenigol lles. Byddwch eisoes yn gwybod ein bod wedi bod yn gweithio ar basbort sgiliau bywyd i blant sy’n edrych ar helpu pob plentyn i ddatblygu sgiliau na fyddai ysgolion yn draddodiadol yn canolbwyntio arnynt. Ynghyd ag ysgolion Cymraeg eraill yr ardal, rydym yn y camau olaf o ddatblygu’r pasbort hwn i gefnogi plant yn eu datblygiad holistig. Fwy o wybodaeth i ddilyn!
Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgyblion
Fe fyddwch chi’n gwybod o ohebiaeth flaenorol ein bod ni eisiau cynnal llawer o gyfleoedd i chi gymryd rhan yn nysgu eich plentyn, cael gwybod am eu cynnydd a gofyn cwestiynau. Fel athrawon, rydym yn gwerthfawrogi eich mewnbwn yn fawr. Ar draws y flwyddyn, rydym yn cynnal 6 phwynt cyswllt (sef tri yn fwy na’r rhan fwyaf o ysgolion). Yn nhymor yr Hydref, cawsoch gyfle i gwrdd ag athrawon dosbarth a derbyniasoch adroddiad interim. Yn nhymor y Gwanwyn, cawsoch gyfle eto i gwrdd ag athro eich plentyn ac yna derbyn adroddiad ysgol llawn.
A ninnau bellach yn nhymor yr Haf, rydym unwaith eto yn cynnig y cyfle i chi gwrdd ag athro eich plentyn. Nid yw hwn yn gyfarfod gorfodol, gan y byddwn yn cael adroddiad interim byr, un dudalen unwaith eto cyn diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, rydym wedi neilltuo 3:30pm-5:30pm ar y 6ed a’r 7fed o Fehefin os hoffech gysylltu gydag athro/athrawes eich plentyn, trafod pontio, gofyn cwestiynau am y camau nesaf neu ddim ond cael gwybod am gynnydd eich plentyn ers yr adroddiad a gawsoch cyn y Pasg.
Er mwyn trefnu sgwrs ffôn neu gyfarfod Timau Microsoft gydag athro eich plentyn, llenwch y ffurflen hon isod. Y cyntaf i’r felin caiff falu! Dyddiad cau bwcio fydd Ddydd Llun, 23ain o Fai am 12:00yp.
Cyfarfod Ffrindiau Panteg
Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, heno am 7pm, bydd Ffrindiau Panteg (y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon) yn cynnal cyfarfod rhithwir. (Gweler y ddolen isod). Mae hwn yn agored i unrhyw un fynychu.
Yn anffodus, oherwydd bod cyfarfod llywodraethwyr wedi’i drefnu ar yr un noson, ni fyddaf yn gallu bod yn bresennol yn bersonol. Fodd bynnag, bydd ein cynrychiolwyr staff yn bresennol ar fy rhan.
Welsh Culture Activities
This last week has held countless exciting activities for our children. We have had the Welsh athlete, Lowri Morgan, in to be a part of our inspiration day for Years 1-3. The children were captivated by her stories about adventuring and being a professional athlete. Yesterday, we had traditional clog dancing lessons for our Progress Step 3 classes. We are constantly trying to broaden our children’s horizons by providing a wide variety in our curriculum to enrichen learning.
Choir
The first choir practice for Years 4-6 under the direction of Mr Beecham was held yesterday. The children sounded fantastic! There is still place at this club if your child would like to join! Email the office to book a space!
Walk to School Week
Next week is dedicated nationally as walk to school week. We understand that lots of our children come on school transport - so it won’t be possible for many. However, if you can walk to school - even if it is not every day - it will make a difference. The reason behind this initiative is to highlight the possibility of roads free from congestion, lower levels of pollution, reducing the risk of preventable illness and social isolation and making walking the natural choice.
So, from the 16th to the 20th of May, if you can, make the choice to walk to our school.
Upcoming Jobs at Ysgol Panteg
Are you suitable for one of these jobs at Ysgol Panteg? Apply today! Do you know someone who would be suitable to work in one of these roles? Urge them to apply!
-Full Time School Support Officer, Level 2 / Receptionist
-Teaching Assistant (must be fluent in Welsh)
-Gap Year Teaching Assistant
Year 6 Transition Trip with Gwynllyw
On Tuesday, 26th of May, we have a transition trip for Year 6 pupils to Llandegfedd Reservoir. If you have a child in Year 6 watch out for the permission slip. What an exciting couple of weeks this is going to be for our Year 6 children - their transition trip and their overnight residential trip! We are extremely grateful for Ffrindiau Panteg funding this trip - it has been an expensive time for our Year 6 families.
Wellbeing Lead
I am proud to announce that we have appointed a new wellbeing leader for our school. Miss Caitlin Harley is now taking over the role previously held by Miss Stacey Prosser.
Wellbeing is one of the most important things for our children. Before children can learn certain wellbeing building blocks must be in place. We are excited, therefore, that we are expanding our wellbeing specialist team. You will already know that we have been working on a life skills passport for children which looks at helping every child develop skills which schools wouldn’t traditionally focus on. Along with other Welsh schools in the area, we are in the final stages of developing this passport to support children in their holistic development. Watch this space!
Pupil Progress and Wellbeing Meetings
You will know from previous correspondence that we want to hold many opportunities for you to engage in your child’s learning, find out about their progress and ask questions. As teachers, we value your input. Across the year, we hold 6 points of contact (which is the three more than most schools). In the Autumn term, you had the opportunity to meet with class teachers and you received an interim report. In the Spring term, you again had the the opportunity to meet with your child’s teacher and then received a full school report.
Now that we are in the Summer term, we are once again offering you the opportunity to meet with your child’s teacher. This is not a compulsory meeting, since we will be having short, one page interim report once again before the end of the year. However, we have allocated 3:30pm-5:30pm on the 6th and 7th of June if you would like to touch base with your child’s teacher, discuss transition, ask questions about next steps or simply find out about your child’s progress since the report before Easter.
In order to book a telephone conversation or Microsoft Teams meeting with your child’s teacher, simply fill out this form below. First come first served with regards to time slots! The booking deadline will be Monday, May 23rd at 12:00pm.
Ffrindiau Panteg Meeting
As previously announced, this evening at 7pm, Ffrindiau Panteg (the PTA) will be holding a virtual meeting. (See the link below). This is open for anyone to attend.
Unfortunately, due to a governors’ meeting scheduled the same evening, I will not be able to attend personally. However, our staff representatives will be attending on my behalf.
Comments