SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
Adroddiadau
Gobeithio eich bod wedi derbyn adroddiad eich plentyn ddoe ac wedi mwynhau darllen am eu cynnydd. Peidiwch ag anghofio anfon y slip dychwelyd atom i roi gwybod i ni eich bod wedi derbyn yr adroddiad a'i ddarllen. Cofiwch y gallwch drefnu apwyntiad gydag athro dosbarth eich plentyn os ydych am drafod unrhyw beth. Mae ein drws bob amser ar agor.
Gwersi Llinynnau
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod unwaith eto yn dechrau gweld gwersi cerdd yn ôl yn yr ysgol. Ochr yn ochr â Mr Beecham sy’n cynnal sesiynau ar gyfer rhai o’n dosbarthiadau yn ogystal â sesiynau cerddoriaeth grŵp, rydym bellach wedi trefnu i ddod â gwersi llinynnol yn ôl i’r ysgol. Bydd Mrs Marie Evans yn gweithio mewn partneriaeth â’r ysgol i ddarparu’r gwersi hyn.
Bydd Mrs Evans yn dysgu dau sesiwn dosbarth yr wythnos drwy brosiect llinynnau babanod sy’n golygu y bydd ein holl blant Blwyddyn 1 yn cael y cyfle y tymor nesaf hwn i ddysgu sut i chwarae ffidil syml. Ein cynllun presennol, os bydd hyn yn llwyddiannus, yw cynnyg hyn i ddosbarthiadau ereill ar ol yr Haf.
Mae gan Mrs Evans hefyd ychydig o le ar gyfer gwersi preifat y diwrnod hwnnw ac rydym yn falch o allu hwyluso gofod iddi gynnal y gwersi hyn. Mae ganddi rai lleoedd cyfyngedig ar gyfer gwersi unigol y gallwch eu harchebu a thalu amdanynt yn uniongyrchol gyda hi. Os yw hyn yn rhywbeth y mae gennych ddiddordeb ynddo, cysylltwch â Mrs Evans ar 07884 063887 ac enquiries@learnviolin.co.uk am fwy o wybodaeth neu i fwcio lle.
Prosiect Cerddoriaeth Upbeat
Rydym hefyd wedi trefnu sesiynau cerddoriaeth ar gyfer pob un o’n dosbarthiadau hŷn gyda cherddoriaeth Upbeat i’w cynnal dros y tymor nesaf yn gysylltiedig ag offerynnau taro.
Cyfraith Smacio
Roedd 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru. O'r diwrnod hwn ymlaen, daeth cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rydyn ni eisiau amddiffyn plant a'u hawliau, i helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw. Felly, rydym yn dathlu bod y gyfraith hon wedi dod i rym.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: https://llyw.cymru/stopio-cosbi-corfforol-i-blant
Rhiant Lywodraethwr
Roeddem yn falch o gael Mr Martyn Redwood i ymuno â ni fel rhiant lywodraethwr yn ein cyfarfod diweddaraf ddydd Mawrth diwethaf. Yn ystod y cyfarfod hwn, agorodd swydd wag arall ar gyfer rhiant lywodraethwr. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Mrs Alexandra West, a ddaeth yn ail yn eich pleidlais rhieni yr wythnos diwethaf wedi derbyn y swydd.
Gwisg Ysgol a Grantiau i Deuluoedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno grant i helpu teuluoedd ar incwm isel i brynu:
-Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
-Cit chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
-Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sgowtiaid; cadetiaid; crefft ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns;
-offer e.e. bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu;
-Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol megis dysgu yn yr awyr agored e.e. dillad glaw;
-Gliniaduron, offer TG i gefnogi gwaith ysgol.
Rydym yn falch y bydd hwn bellach ar gael i bob grŵp blwyddyn nid dim ond detholiad o grwpiau blwyddyn fel yr oedd yn flaenorol.
Dilynwch y ddolen isod am fwy o wybodaeth:
Os ydych yn byw yn Nhorfaen, gallwch ffonio’r ‘Tîm Budd-daliadau’ ar 01495 742291 neu 742377.
Ymweliadau Addysgol i ddod
- Mae ein hymweliad preswyl Blwyddyn 5 â Chanolfan Addysg Awyr Agored Gilwern bellach wedi’i drefnu ac mae bellach ar gael i dalu amdano ar Civica Pay. Bydd teuluoedd blwyddyn 5 wedi derbyn e-bost ychwanegol gyda mwy o wybodaeth.
- Mae ein hymweliad preswyl newydd ar gyfer blwyddyn 6 yn edrych fel bydd e’n newid i Ganolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn. Mae flin gen i am yr oedi ond rydym yn aros am gadarnhad o’r ganolfan.
- Os yw eich plentyn ym Mlynyddoedd 1-3, peidiwch ag anghofio mewngofnodi i Civica Pay i gadw lle i’ch plentyn ar ein Teithiau Castell Fonmon.
- Rydym bellach hefyd wedi trefnu i’n Derbynfa a Meithrinfa gael tripiau i Fferm Gymunedol Greenmeadow. Mae hwn nawr ar Civica Pay a byddwch wedi derbyn e-bost ychwanegol gennym ni i amlinellu mwy o fanylion a dyddiadau.
Mae hyn yn golygu ein bod yn gweithio’n galed i gyflawni ein hymrwymiad i chi i drefnu ymweliadau addysgiadol i’n plant wrth i ni ddod allan o’r pandemig presennol hwn. Fe wnaethoch chi ei godi yn eich holiadur rhieni - rydyn ni'n gwneud rhywbeth amdano.
Eisteddfodau'r Urdd
Ymddiheurwn nad ydym wedi gallu cadarnhau’r trefniadau ar gyfer Eisteddfodau’r Urdd hyd yn hyn. Mae ein criw dawnsio eisoes yn gwybod ein bod wedi gwneud cais i gynnal y gystadleuaeth yn ein hysgol yn lle gorfod mynd draw i Gwm Rhymni. Mae hyn yn golygu bod cystadleuaeth ddawns yr Urdd yn cael ei chynnal ddydd Iau nesaf ar ôl ysgol.
Dim ond neithiwr y cadarnhawyd y canu a’r llefaru gan yr Urdd. Bydd y rhain yn cael eu cynnal fel yr hysbysebwyd ar yr 2il o Ebrill yng Nghwm Rhymni.
Gyda chymaint o newid a phroblemau gydag ysgolion yn tynnu allan, mae'r Urdd wedi bod yn ceisio ei ddatrys - dyna pam yr oedd oedi wrth gadarnhau dyddiadau ac amseroedd.
Bonedi Pasg
Mae awgrym wedi dod i mewn gan un o’n rhieni i gynnal cystadleuaeth Boned Pasg neu het cyn y gwyliau. Fel plentyn, dwi’n cofio eistedd gyda fy nhad i wneud fy het Pasg! Byddwn yn cynnal y gystadleuaeth ar y 7fed o Ebrill (y diwrnod olaf cyn gwyliau’r Pasg!)
Offer Multigym Awyr Agored
Wythnos nesaf, mae gennym ein hoffer aml-gampfa awyr agored yn cael ei osod! Rydym yn gyffrous iawn am hyn ac mae ein plant hŷn yn edrych ymlaen yn fawr at ei ddefnyddio!
Good morning!
Reports
We hope that you received your child’s report yesterday and enjoyed reading about their progress. Please don’t forget to send in the return slip to let us know that you have received the report and read it. Remember that you can arrange an appointment with your child’s class teacher if you wish to discuss anything. Our door is always open.
Strings Lessons
We are excited to announce that we are once again beginning to see music lessons back at school. Alongside Mr Beecham who runs sessions for some of our classes in addition to group music sessions, we have now arranged to bring string lessons back to to school. Mrs Marie Evans will be working in partnership with the school to provide these lessons.
Mrs Evans will be teaching two class sessions a week through an infants strings project which means all of our Year 1 children will have the opportunity this next term to learn how to play some simple violin. Our current plan, if this is successful, is then to offer this to other classes after the Summer.
Mrs Evans also has some space for private lessons on that day and we are pleased to be able to facilitate a space for her to run these lessons. She has some limited spaces for individual lessons that you can book and pay for directly with her. If this is something you are interested in, please contact Mrs Evans on 07884 063887 and enquiries@learnviolin.co.uk for more information or to book.
Upbeat Music Project
We have also arranged music sessions for all of our older classes with Upbeat music to take place over the next term linked with percussion instruments.
Smacking Law
21 March 2022 was a historic moment for children and their rights in Wales. From this day on, physically punishing children became illegal in Wales. We want to protect children and their rights, to help give them the best start in life. So, we are celebrating that this law has come into place.
For more information, follow this link:
Parent Governor
We were glad to have Mr Martyn Redwood join us as a parent governor at our most recent meeting this past Tuesday. During this meeting, another vacancy opened up for a parent governor. We are very pleased to announce that Mrs Alexandra West, who came second in your parent ballot last week has accepted the position.
School Uniforms and Grants for Families
The Welsh Government has introduced a grant to assist families on low incomes with the purchase of:
-School uniform including coats and shoes;
-School sports kit including footwear;
-Uniform for enrichment activities, including but not limited to, scouts; guides; cadets; martial arts; sports; performing arts or dance;
-Equipment e.g. school bags and stationery;
-Equipment for out of school hour trips such as outdoor learning e.g. waterproofs;
-Laptops, IT equipment to support school work.
We rejoice that this will now be available to all year groups not just a selection of year groups as it was previously.
Follow the link below for more information:
If you live in Torfaen, you can ring the ‘Benefits Team’ on 01495 742291 or 742377.
Upcoming Educational Visits
- Our Year 5 residential visit to Gilwern Outdoor Education Centre has now been arranged and it is now available to pay for on Civica Pay. Year 5 families will have received an additional email with more information.
- Our Year 6 replacement residential visit looks like it will be to Pendine Outdoor Education Centre. Apologies for the delay, we are awaiting confirmation from the Centre.
- If your child is in Years 1-3, don’t forget to log on to Civica Pay to book your child’s place on our Fonmon Castle Trips.
- We have now also arranged for our Reception and Nursery to have trips to Greenmeadow Community Farm. This is now on Civica Pay and you will have received an additional email from us to outline more details and dates.
This means that we are working hard to fulfil our commitment to you to arrange education visits for our children as we emerge out of this current pandemic. You raised it in your parent questionnaire - we are doing something about it.
Urdd Eisteddfods
We apologise that we have not been able to confirm the arrangements for the Urdd Eisteddfods until now. Our dance group already know that we made a request to hold the competition at our school instead of having to go over to Cwm Rhymni. This means that the Urdd dance competition is being held next Thursday after school.
The singing and recitations were only confirmed last night by the Urdd. These will be taking place as advertised on the 2nd of April at Cwm Rhymni.
With so much change and issues with schools pulling out, the Urdd have been trying to sort it out - this was why there was a delay in confirming dates and times.
Easter Bonnets
A suggestion has come in from one of our parents to hold an Easter Bonnet or hat competition prior to the holidays. As a child, I remember sitting with my father to make my Easter top hat! We will be holding the competition on the 7th of April (the last day before the Easter break!)
Outdoor Multigym Equipment
Next week, we have our outdoor multigym equipment being installed! We are very excited for this and our older children are really looking forward to using it!
Comments