SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Prynhawn Da!
Bwletin byr, braf i chi dydd Mawrth yma!
Parc Bryn Bach, Blwyddyn 5
Cofiwch dalu am y daith neu gysylltu â ni os ydych yn cael anhawster. Mae'r daith yma ddydd Gwener ac ambell un heb dalu i fynd eto. Mae angen i ni dderbyn cyfathrebiad gan deuluoedd i ganiatáu i’w plant fynd ar y daith – mae taliad ar Civica Pay yn dynodi eich bod yn cytuno i anfon eich plentyn ar y daith.
Taith Dros Nos Blwyddyn 4 i Fae Caerdydd
Ddoe a heddiw, mae ein dosbarthiadau Blwyddyn 4 wedi gwirioni ar eu hamser yng nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd. Cawsant amser gwych ar gwch cyflym, yn y Senedd, yn dawnsio yn y disgo, yn Amgueddfa Caerdydd ac yn mynd ar daith gerdded o amgylch y Bae. Neithiwr, cefais y fraint o fynd gyda nhw i chwarae bowlio - mae dweud fy mod wedi cael fy nharo gan rai o'r plant yn danddatganiad! Roedd pawb yn gwenu trwy’r dydd! Hoffwn ddiolch i’r staff a roddodd eu hamser yn rhad ac am ddim er mwyn rhoi’r cyfle hon i’r plant.
Taith Dros Nos Blwyddyn 5
Rwyf bellach mewn sefyllfa i ddweud wrth deuluoedd ein bod wedi gallu trefnu i ddisgyblion Blwyddyn 5 gael profiad o aros dros nos yng Nghanolfan Gweithgareddau Allanol Gilwern. Roeddem yn ymwybodol iawn bod ein disgyblion Blwyddyn 5 wedi colli allan dros y ddwy flynedd diwethaf oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, rydym wedi llwyddo i archebu slot! Dyddiadau’r daith fydd Dydd Llun, 23ain i Ddydd Mawrth, 24ain o Fai. Bydd mwy o fanylion am archebu a thalu yn cael eu hanfon at deuluoedd Blwyddyn 5 wythnos nesaf.
Ymweliadau Addysgol Eraill sydd ar y Gweill
Rydym yn cwblhau teithiau ar gyfer blynyddoedd ysgol eraill (yng Ngham Cynnydd 1 a 2). Gofynwn i chi fod yn amyneddgar gyda ni wrth i ni weithio allan logisteg gydag cyrff allanol sy'n ein harafu ac yn ein rhwystredigo.
“Penblwydd Hapus” i Mrs. Glenys Palmer
Llongyfarchiadau i Glenys, un o'n goruchwylwyr canol dydd, a drodd yn 60 heddiw! Rydyn ni i gyd yn dymuno diwrnod gwych i chi!
Comic Relief - Diwrnod Trwyn Coch
Peidiwch ag anghofio bod dydd Gwener yma yn Ddiwrnod Gwallt Gwyllt yn Ysgol Panteg, yn codi arian at apêl trychineb Wcráin Comic Relief. Dwi wedi benthyg wig yn barod ar gyfer yr achlysur! (Bydd plant mewn gwisg ysgol ar y diwrnod hwn). Gall plant Blwyddyn 5 hefyd cael gwallt gwyllt am eu trip!
Cwtsh Cymreig
Rydym yn chwilio am fyddin o wirfoddolwyr! Ac, rydym angen eich help! Rhieni, gofalwyr, neiniau, teidiau… mae eich angen chi arnom ni! Allech chi gynnig ychydig oriau bob wythnos efallai i ddod i ddarllen gyda phlant yn Gymraeg neu Saesneg, gwneud ychydig o arddio gyda phlant, coginio pethau syml gyda phlant? Yn wyneb y cyfyngiadau sydd yn edrych i leddfu ar yr 28ain o Fawrth, rydym yn edrych i recriwtio a mynd drwy'r broses DBS mewn da bryd fel y gallwn ddechrau cael gwirfoddolwyr i mewn i gyfoethogi ein hysgol. Un o’n gwerthoedd craidd yw ‘teulu’ – ac un peth y mae hyn yn ei olygu yw ein bod am groesawu pobl i’n hysgol i gefnogi dysgu ein plant.
Yn y gorffennol, cyn-bandemig, roedd gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o ysgolion. Fodd bynnag, roedd llawer o bobl yn arfer dweud “Dydw i ddim yn ddigon da i ddarllen Cymraeg gyda phlant” neu byddent yn cwestiynu beth y gallent ei gynnig. Pan fyddwn yn sgwrsio â chi, gallwn weld lle mae'ch sgiliau a cheisio defnyddio'ch doniau! Dychmygwch y gefnogaeth bwerus y gallai gwirfoddolwr darllen am ddim ond awr neu ddwy yr wythnos fod i bob dosbarth! Pan oeddwn yn athro dosbarth ychydig flynyddoedd yn ôl, fy ngwirfoddolwyr darllen oedd asgwrn cefn magu hyder yng ngallu darllen rhai o fy mhlant. Dyma gyfle Teulu Panteg i roi nôl!
Felly, sut ydych chi'n cofrestru? Wel, prin yw’r camau y mae angen inni eu cymryd. Cysylltwch â mi neu'r swyddfa (office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk) i roi gwybod i ni os gallwch chi helpu a rhoi gwybod i ni eich argaeledd wythnosol. Yna byddwn yn eich helpu chi i gofrestru gyda ffurflenni DBS i sicrhau bod pawb sy'n gwirfoddoli gyda phlant yn cael eu gwirio gan yr heddlu. Yna, byddwn yn trefnu hyfforddiant diogelu ar gyfer ein gwirfoddolwyr - gydag opsiynau digidol ac wyneb yn wyneb. Yna, gallwn ni eich cael chi i mewn!
Rwy'n hapus iawn i siarad â chi wrth y giât bob bore a gyda'r nos neu dros y ffôn os ydych am drafod ymhellach! Lledaenwch y gair!
Gofal Cofleidiol Gofal Teg
Mae gan yr uned gofal plant sy'n rhannu ein safle lefydd cofleidiol gyda'r nos o hyd. Cysylltwch â gofalteg@outlook.com am fwy o wybodaeth. Nid yw swyddfa'r ysgol yn gallu helpu gyda'r mater hwn gan nad yw Gofal Teg yn gysylltiedig â'r ysgol.
Caban y Coed: Canolfan Dysgu Awyr Agored
Rydyn ni mor gyffrous bod Caban y Coed yn ei gamau olaf yn ei adeiladu nawr. Mae ffenestri a drysau yn cael eu gosod yn fuan ac mae coed yn cael eu danfon! Byddwn yn rhoi'r ganolfan ar waith cyn gynted ag y gallwn. Ysgolion y Goedwig a dysgu yn yr awyr agored yw ffocws rhai o’n diwrnodau hyfforddi sydd ar ddod hefyd – oherwydd mae manteision dysgu yn yr awyr agored mor anhygoel i iechyd a lles plant!
Swyddi Chwarae Haf
Mae Torfaen yn chwilio am staff ar gyfer eu cynlluniau chwarae Haf. Bydd darpariaethau Torfaen yr haf hwn yn rhedeg o'r 1af o Awst i'r 25ain o Awst. Mae tri math o swydd ar gael: goruchwylwyr safle, gweithiwr chwarae, a chefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ymddygiadol.
Cymerwch ofal!
Good afternoon!
A nice, short bulletin for you this Tuesday!
Parc Bryn Bach, Year 5
Please remember to pay for the trip or contact us if you are having difficulty. This trip is on Friday and a few have not yet paid to go. We need to receive communication from families to allow their children to go on the trip - payment on Civica Pay indicates that you agree to sending your child on the trip.
Year 4 Overnight Trip to Cardiff Bay
Yesterday and today, our Year 4 classes have loved their time at the Urdd centre in Cardiff Bay. They had a fantastic time on a speed boat, at the Senedd, dancing at the disco, at Cardiff Museum and doing a walking tour of the Bay. Last night, I was privileged to go along with them to play bowling - to say that I was thrashed by some of the children is an understatement! It was smiles all round! I want to publicly and officially thank the staff who gave up their time, free of charge, to give our children this opportunity.
Year 5 Overnight Trip to Gilwern Outdoor Education
I am now in a position to tell families that we have been able to arrange for Year 5 pupils to experience an overnight trip to Gilwern Outdoor Education Centre. We were acutely aware that our Year 5 pupils have missed out over the past two years due to the pandemic. However, we have managed to book a slot. The dates for the trip will be Monday 23rd to Tuesday 24th of May. More details about booking and payment will be sent Year 5 families next week.
Other Educational Visits in the Pipeline
We are finalising trips for other school years (in Progress Step 1 and 2). Please bare with us as we work out logistics with external parties which are frustratingly slowing us down.
“Penblwydd Hapus” to Mrs. Glenys Palmer
Congratulations to Glenys, one of our midday supervisors, who turned 60 today! We all wish you a fantastic day!
Comic Relief - Red Nose Day
Don’t forget that this Friday is Whacky Hair Day at Ysgol Panteg, raising money for Comic Relief’s Ukraine disaster appeal. I’ve borrowed a wig ready for the occasion! (Children will be in school uniform on this day). Year 5 can also have whacky hair for their trip!
Cwtsh Cymreig
We are looking for an army of volunteers! And, we need your help! Parents, carers, grannies, grandads… we need you! Could you offer a few hours every week to perhaps come and read with children in Welsh or English, do some gardening with children, cook simple things will children? In light of restrictions looking to ease on the 28th of March , we are looking to recruit and go through the DBS process in good time so that we can start getting volunteers in to enhance our school. One of our core values is ‘family’ - and one thing this means is that we want to welcome people into our school to support our children’s learning.
In the past, pre-pandemic, volunteers were an essential part of schools. However, lots of people used to say “I’m not good enough to read Welsh with children” or they would question what they could offer. When we chat with you, we can see where your skills lie and attempt to use your talents! Imagine the powerful support a reading volunteer for just an hour or two a week could be for every class! When I was a class teacher a few years ago, my reading volunteers were the backbone of building confidence in some of my children’s reading ability. This is Teulu Panteg’s opportunity to give back!
So, how do you sign up? Well, there are few steps that we need to undertake. Contact myself or the office (office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk) to let us know if you can help out and let us know your weekly availability. We will then get you to sign up with DBS forms to ensure that everyone who volunteers with children is police checked. Then, we will arrange safeguarding training for our volunteers - with digital and in-person options. Then, we can get you in!
I am really happy to speak to you at the gate each morning and evening or over the phone if you want to discuss further! Spread the word!
Gofal Teg’s Wrap Around Childcare
The childcare unit that sits sharing our site still has places for wrap around in the evenings. Contact gofalteg@outlook.com for more information. The school office is unable to help with this matter since Gofal Teg is not affiliated to the school.
Caban y Coed: Outdoor Learning Centre
We are so excited that Caban y Coed is in its latter stages of building now. Windows and doors are being fitted shortly and trees are being delivered! We will get the centre up and running as soon as we can. Forest schools and outdoor learning is the focus some of our upcoming training days too - because the benefits of outdoor learning are so amazing to children’s health and wellbeing!
Summer Play Jobs
Torfaen are looking for staff for their Summer playschemes. Torfaen's provisions this Summer will run from the 1st of August to the 25th of August. There are three types of positions available: site supervisors, playworker, and support for children and young peopl ewith disabilities and behavioural needs.
Take care!
Comments